HE 33

Y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol

Communities, Equality and Local Government Committee

Bil yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru)/Historic Environment (Wales) Bill

Ymateb gan: Cyngor Gwynedd

Response from: Gwynedd Council

 

Mae ymateb Cyngor Gwynedd parthed y cylch gorchwyl isod ar gyfer Bil yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) yn dilyn ym mhwyntiau 1 i 15.

 

Cylch gorchwyl

Dyma gylch gorchwyl yr ymchwiliad:

Ystyried—

ddeddfwriaeth i:

modd cynaliadwy;

gwneud mewn ffordd fwy tryloyw ac atebol.

eu hystyried,

nodir ym Mhennod 5 o Ran 1 o’r Memorandwm Esboniadol).

 

Cyflwyniad

  1. Mewn egwyddor mae cynnwys y Bil i’w groesawu o agwedd deddfwriaeth mwy cyfoes a chanllawiau cryfach er mwyn i waith y maes Cadwraethol fod yn fwy clir a chadarn. Mae’r deddfwriaeth a’r Cylch lythyrau presennol dal yn berthnasol ond mewn angen ei uwchraddio. Bydd rhai elfennau o’r Bil newydd yn sicrhau amddiffyniad i’r Amgylchedd Hanesyddol sydd yn bresennol yn  wan ac yn brin.

 

Egwyddorion cyffredinol Bil yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) a’r angen am

ddeddfwriaeth i:

 

 

 

 

  1. Credir ar hyn o bryd fod deddfwriaeth presennol yn eithaf effeithlon, ond nid yw yn ddigon cryf nac ychwaith gyda yn darparu digon o warchodaeth na phwerau effeithiol i warchod adeiladau rhestredig na henebion cofrestredig. Mae’r cylch lythyrau presennol, yn enwedig 61/96 sydd yn berthnasol i’r Awdurdod Cynllunio Lleol a’r Uned Cadwraeth yn ddefnyddiol iawn ond yn 20 mlynedd oed erbyn hyn ac angen ei ddiweddaru. Teimlir bod llawr o gynnwys y cylch lythyr hwn dal yn ddefnyddiol ond angen fwy o ddannedd.
  2. Ni ystyrir y bydd llawer o newid o agwedd system ymgynghori’r Gweinidogion Cymru gydag ystyried rhestru adeiladau gan ei bod yn gwneud hyn fel ymarfer da ers 2005. Ystyrir fodd bynnag fod gosod cyfnod gwarchod interim ar adeiladau wrth ystyried eu rhestru yn ychwanegiad da fydd yn eu gwarchod fel y byddant yn rhestredig. Mae’r ychwanegiad hyn i’w groesawu.
  3. Mae’r bwriad i greu cofrestr statudol ar gyfer parciau a gerddi hanesyddol yn ychwanegiad da mewn egwyddor fel y byddai phob parc a gardd hanesyddol yn cael ei cofrestru, yn hytrach na’r drefn bresennol ble mae rhai perchnogion yn gwrthod cael ei cynnwys. Rydym fel Awdurdod Cynllunio Lleol yn ymgynghori yn barod ar geisiadau cynllunio y gall gael effaith ar barc a gardd hanesyddol gyda’r Gweinidogion Cymru a’r cyrff mwynderol perthnasol.  Felly ni ystyrir y bydd llawer o wahaniaeth yn y ddarpariaeth hon. 
  4. Mae’r bwriad o ehangu cwmpas gwaith brys ar adeiladau rhestredig ac adennill costau drwy gyflwyno pridiant tir lleol yn ychwanegiad i’w groesawu a fydd yn golygu mwy o gyfleon i gyflwyno’r rhybuddion ar adeiladau a feddiannir, yn hytrach na dim ond adeiladau nad ydynt wedi ei meddiannu. Mae’r rhybudd yma yn rhwystredig ar hyn o bryd oherwydd natur yr adeilad ble gallent gyflwyno’r rhybudd, ond bydd y ddarpariaeth newydd yn newid hyn a fydd yn golygu mwy o warchodaeth i adeiladau dan fygythiad / risg.
  5. Fel Awdurdod Cynllunio Lleol rydym yn delio gyda llawer o achosion ble mae gwaith di-ganiatâd yn mynd ymlaen ar adeiladau rhestredig ac fel rheol mae Swyddog yn mynd allan a thrafod gyda’r perchnogion yn atal hyn, ond nid oes rhybudd ffurfiol i’n cefnogi. Mae’r bwriad felly o gyflwyno hysbysiadau stop dros dro yn ddarpariaeth gryf iawn fydd yn golygu gallu gwarchod adeiladau, yn bennaf oherwydd ei fod yn weithredol ar unwaith. 

Egwyddorion cyffredinol Bil yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) a’r angen am

ddeddfwriaeth i:

modd cynaliadwy;

 

  1. Yn bresennol mae’r cofnodion amgylchedd hanesyddol yn cael eu rhedeg gan yr Ymddiriedolaethau Archeolegol Cymru. Credir fod y drefn hon yn effeithlon iawn gan fod natur y cofnodion hwn o fewn yr un maes archeolegol ac mae’r gwasanaeth y mae’r Ymddiriedolaeth yn ei gynnig yn addysgiadol, manwl ac agored i bawb. Mae’r bwriad o ail-leoli’r cofnod hwn i’r Awdurdod Cynllunio Lleol yn gymysglyd braidd, gan nad ystyrir mai’r Awdurdod Cynllunio yn angenrheidiol, yw’r lleoliad priodol i’w ail-leoli. Nid yw’r ddarpariaeth cofnod amgylchedd hanesyddol yn berthnasol i waith dydd i ddydd y gwasanaeth cynllunio ac felly ystyrir y bod lleoliad gwell i’w leoli.

 

  1. Mater arall i’w ystyried yma yw’r gost o ail-leoli’r ddarpariaeth hyn. Mae Cynghorau Cymru yn wynebu toriadau sylweddol dros y blynyddoedd i ddŵad ac pe lleoli’r cofnodion amgylchedd hanesyddol o fewn yr Awdurdodau Cynllunio yma, ni ystyrir y bydd y cofnod yn flaenoriaeth o agwedd materion cynllunio ac nid oes yr adnoddau i ddarparu’r wasanaeth yn effeithiol.

 

  1. Mae’r bwriad o gyflwyno cytundebau partneriaeth dreftadaeth yn dderbyniol mewn egwyddor, ble fyddai’n hwyluso’r drefn gynllunio gyda stadau mawr. Ond gan eu bod yn gytundebau gwirfoddol, nid oes unrhyw gofyn i berchnogion gymryd rhan mewn unrhyw gytundeb.

 

  1. Nid yw’r Awdurdod Cynllunio Lleol yn cael ceisiadau am dystysgrif imiwnedd rhag rhestru yn aml iawn. O fewn y 3 blynedd diwethaf nid oes un wedi’i gyflwyno ac felly ni ystyrir y bydd llawer o wahaniaeth wrth lacio’r amodau hyn.

 

Egwyddorion cyffredinol Bil yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) a’r angen am

ddeddfwriaeth i:

gwneud mewn ffordd fwy tryloyw ac atebol.

 

  1. Mae’r bwriad o sefydlu panel cynghori ar amgylchedd hanesyddol Cymru yn dderbyniol mewn egwyddor, ond at pa fwriad fydd y panel hwn? Pe byddai’r panel  yn cynnig cymorth i bob maes treftadaeth ac yn agored i bawb, fyddai’n gallu bod yn ddefnyddiol iawn. Credir fod y drefn o wneud penderfyniadau ar geisiadau adeiladau rhestredig o ran rol Awdurdodau Lleol eisoes yn dryloyw, ond nad oes yr un trylowder yn y ceisiadau sydd angen mewnbwn Cadw.

 

Egwyddorion cyffredinol Bil yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) a’r angen am

ddeddfwriaeth i:

eu hystyried,

 

  1. Ystyrir y prif rwystrau gyda’r Bil hon yn bennaf fyddai adnoddau. Mae llawer o’r egwyddorion o ran cael eu gwireddu’n llawn yn mynd i fod angen adnoddau o fewn yr Awdurdod Cynllunio Lleol.  Yn yr hinsawdd ariannol sydd ohoni, credir y gall diffyg adnoddau a’r angen i flaenoriaethu adnoddau yn sgil hynny fod yn rwystr  sylweddol.

 

Egwyddorion cyffredinol Bil yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) a’r angen am

ddeddfwriaeth i:

 

  1. Heb law am y materion adnoddau o rhai elfennau o’r Bil, ni ystyrir fodd unrhyw ganlyniadau eraill yn deillio ohono.

 

Egwyddorion cyffredinol Bil yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) a’r angen am

ddeddfwriaeth i:

 

  1. Mae’r memorandwm esboniadol yn egluro sawl opsiynau o agwedd costau’r Bil. Mae sawl darpariaeth sydd yn cael eu gyflwyno yn golygu goblygiadau adnoddau i’r Cyngor. Ystyrir y prif gostau byddai ail-leoli’r cofnod amgylchedd hanesyddol gan y bydd rhaid hyfforddi swyddog o fewn y gwaith a’r maes i gofnodi’r holl wybodaeth a chadw’r gofnod yn gyfredol

 

Egwyddorion cyffredinol Bil yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) a’r angen am

ddeddfwriaeth i:

nodir ym Mhennod 5 o Ran 1 o’r Memorandwm Esboniadol).

 

  1. Ni ystyrir fod y pwerau o wneud is-ddeddfwriaeth o’r Bil yn creu pryder mawr, ac nid oes sylwadau penodol ar hyn o bryd.